Free School Meals
Mae cinio am ddim ar Gael i bob plentyn yn yr ysgol.
Os am dderbyn taliad Grant Tuag at Wisg Ysgol (GDD – Mynediad), fe fydd dal angen i chi gyrraedd y meini prawf isod, ac fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim.
Mae'n bosibl y gall ddisgybl gael prydau bwyd am ddim os yw ei riant neu warcheidwad (hynny yw, y person sydd a gofal am y plentyn) yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
- o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol eich cartref yn fwy na £7,400 (fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o’ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)
Gwnewch gais yma: Prydau Ysgol am Ddim - Cyngor Sir Ceredigion
Fe ddylech hefyd adael i’r ysgol wybod yn uniongyrchol os yw eich plentyn, neu blant, am dderbyn pryd am ddim bob dydd, neu os ydynt am ddod â chinio eu hunain.