Admissions
Yng Ngheredigion gall plentyn wneud cais am ysgol gynradd ar ddechrau'r tymor yn dilyn ei 4ydd pen-blwydd. Mae gan bob ysgol rhif derbyn. Rhif derbyn ysgol Penrhyn-coch yw 15, a rif derbyn Ysgol Penllwyn yw 7. Cyngor Sir Ceredigion Ceredigion bydd yn ystyried ceisiadau.
Yr un yw’r broses ar gyfer plentyn sydd yn trosglwyddo i’r ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol e.e. os ydych wedi symud tŷ.
Os oes gan eich plentyn anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol maen bwysig nodi hyn wrth i chi ymgeisio am le yn yr ysgol fel ein bod yn medru gosod cynllun trosglwyddo ar waith i gefnogi’r plentyn wrth trosglwyddo i’r ysgol.
Er mwyn gwneud cais am le yn yr ysgol gwnewch gais ar lein:
Er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn a pha ysgol i ddanfon eich plentyn, rydym yn estyn croeso i chi ymweld a’r ysgol, i gael profiad o’r naws deuluol ac ethos gofalgar yr ydym yn cynnig. Mae croeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth i drefnu ymweliad.